Lleoliad:
Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Chwefror 2022
Amser:
09.00 -
09.35
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Pwyllgor
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Tynnodd y Llywydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newid canlynol i fusnes dydd Mercher:
Dadl Fer – James Evans (Brycheiniog a Sir
Faesyfed) (Tynnwyd yn
ôl)
Trafododd y Pwyllgor Busnes ailddechrau trafodion hybrid yn y Cyfarfod Llawn a'r trefniadau mewn perthynas ag egwyl ac ymyriadau. Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau eu bod yn cael eu cynghori'n gryf i wisgo masgiau yn y Siambr ar wahân i pan maent yn siarad, ac i gymryd Profion Llif Unffordd cyn dod i ystâd y Senedd.
Gofynnodd y Llywydd hefyd i Reolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau i gadw at derfynau amser o ran cyfraniadau yn y Cyfarfod Llawn.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 8 Chwefror 2022 -
·
Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Arloesedd mewn Ynni Adnewyddadwy (45 munud)
– caiff ei gyhoeddi fel
datganiad ysgrifenedig
·
Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Ansawdd Dŵr (45 munud) – caiff ei gyhoeddi fel datganiad
ysgrifenedig
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Cap ar Brisiau Ynni (45 munud)
Dydd Mawrth 15 Chwefror 2022 -
· Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (Cymru) (Diwygio) 2022 (15 munud)
· Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022 (15 munud)
· Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022 (15 munud)
· Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022 (15 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 16 Chwefror 2022 -
Dydd Mercher 2 Mawrth 2022 -
3.4 Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynigion canlynol i’w trafod:
Dydd Mercher 9 Chwefror 2022:
NNDM7831 Mabon ap Gwynfor
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reolaethau rhent.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) helpu i fynd i'r afael â rhai o effeithiau mwy difrifol
argyfwng tai Cymru, sy'n effeithio ar dros filiwn o bobl ledled y wlad;
b) lliniaru cynnydd sylweddol mewn rhent yn y dyfodol, fel y cynnydd a welwyd yn y sector rhentu dros y 12 mis diwethaf;
c) cyflwyno system sy'n cyfyngu ar renti a chynnydd mewn rhent i lefelau fforddiadwy a ffactorau lleol, gan gau'r bwlch rhwng twf cyflogau a chostau byw.
Dydd Mercher 2 Mawrth 2022:
NNDM7833 Alun Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i leihau effaith andwyol gorlifoedd stormydd.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) gosod dyletswydd ar ymgymerwr carthffosiaeth y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru i sicrhau gostyngiad cynyddol yn effaith andwyol gollyngiadau o orlifoedd stormydd yr ymgymerwr;
b) lleihau effeithiau andwyol gollyngiadau carthion ar
yr amgylchedd ac ar iechyd y cyhoedd;
c) ei gwneud yn bosibl i'r ddyletswydd ar ymgymerwr carthffosiaeth gael ei gorfodi gan Weinidogion Cymru neu gan yr Awdurdod gyda chydsyniad awdurdodiad cyffredinol a roddir gan Weinidogion Cymru, neu'n unol â hynny.
Dydd Mercher 16 Mawrth 2022:
NNDM7896 Janet Finch-Saunders
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gynllunio morol yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) gwneud darpariaethau ar gyfer polisïau a fyddai'n helpu i lywio lleoliad datblygiadau i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf sensitif o safbwynt ecolegol, lleihau'r effeithiau cronnol ar gynefinoedd a rhywogaethau sy'n agored i niwed, a rhoi mwy o sicrwydd i ddatblygwyr;
b) creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hwyluso'r gwaith o greu cynllun datblygu morol cenedlaethol, a'i adolygu o leiaf unwaith ym mhob Senedd;
c) sefydlu meysydd adnoddau strategol ar gyfer ynni morol;
d) cyhoeddi strategaeth ar gyfer gwrthdroi dirywiad adar môr;
e) ei gwneud yn ofynnol i ffermydd gwynt ar y môr gynnwys adfer cynefinoedd gwely'r môr; strategaeth ar gyfer cynaeafu bwyd môr cynaliadwy o fewn
ardal y fferm wynt a mesurau gwella amgylcheddol.
4 Deddfwriaeth
4.1 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Iechyd a Gofal at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar fore 15 Chwefror 2022.
5 Pwyllgorau
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar ddeiseb P-05-949 Achub Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-faen dydd Mercher 16 Chwefror 2022.
6 Amserlen y Pwyllgorau
6.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
7 Busnes y Senedd
7.1 Craffu ar Aelodau Dynodedig
Datganodd Sian Gwenllian fuddiant fel Aelod Dynodedig.
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes yr opsiynau posibl ar gyfer hwyluso craffu ar waith Arweinydd Plaid Cymru ac Aelodau Dynodedig ar y Cytundeb Cydweithio ymhellach, yn dilyn ymgynghoriad y Rheolwyr Busnes â’u grwpiau.
Roedd grwpiau’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru o blaid cyflwyno mecanweithiau ar gyfer craffu ar waith Aelodau Dynodedig ac Arweinydd Plaid Cymru yn y Cyfarfod Llawn. Nid oedd y grŵp Llafur a'r Democrat Rhyddfrydol o blaid.
Felly, nid oedd mwyafrif o blaid cynnig unrhyw newidiadau i'r Rheolau Sefydlog. Fodd bynnag, nododd y Pwyllgor Busnes y mecanweithiau presennol y gellir eu defnyddio ar gyfer craffu ar waith Aelodau Dynodedig ac Arweinydd Plaid Cymru gan bwyllgorau'r Senedd.